Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Siop adrannol eiconig Abertawe wedi’i hadeni fel canolfan gelfyddydau creadigol
    Yn Gymraeg

    Siop adrannol eiconig Abertawe wedi’i hadeni fel canolfan gelfyddydau creadigol

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryOctober 31, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Iconic Swansea department store reborn as creative arts hub / Siop adrannol eiconig Abertawe wedi’i hadeni fel canolfan gelfyddydau creadigol
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Mae adeilad eiconig yng nghanol dinas Abertawe eisoes yn cael ei ddefnyddio eto wrth i gynlluniau i’w agor i’r cyhoedd ddatblygu’n gyflym.

    Mae hen adeilad siop adrannol JT Morgan ar Belle Vue Way – a fu’n wag ers 2008 – bellach yn gartref i gymuned o arlunwyr, cerflunwyr, awduron, dylunwyr ffasiwn a golygyddion fideo.

    Mae pob un o’r 55 stiwdio newydd yn yr adeilad wedi’u meddiannu’n llawn ar ôl cwblhau cam cyntaf ei adfywiad fel rhan o brosiect dan arweiniad Oriel Elysium.

    Yn ogystal â’r stiwdios, roedd cam cyntaf y gwaith hefyd yn cynnwys gosod to newydd gyda phaneli solar, lifft newydd a chyflenwad pŵer newydd.

    Mae’r prosiect wedi’i gefnogi gan Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, a helpodd i ariannu’r gwaith mewnol, y gwaith gwagio a’r gwelliannau i’r to.

    Cafwyd cymorth ychwanegol gan gynllun Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol, a menter cyfrannau cymunedol.

    Mae cam dau’r gwaith i drawsnewid hen adeilad JT Morgan bellach yn mynd rhagddo, ac yn canolbwyntio ar y llawr gwaelod a’r islawr.

    Pan fydd wedi’i orffen, bydd yn arwain at agor yr adeilad i’r cyhoedd am y tro cyntaf ers bron dau ddegawd. Bydd yn cynnwys oriel, siop goffi, ystafell achlysuron, canolfan addysg ac ystafell dawel. Bydd cyfleuster Changing Places’ hefyd yn cael ei gynnwys i gefnogi mynediad cynhwysol ac ymgysylltu â phlant ac oedolion anabl.

    Bydd yr oriel yn agor mewn pryd ar gyfer ei harddangosfa gyntaf ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf, gyda’r artist enwog André Stitt.

    Meddai Dan Staveley, cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr oriel a stiwdios Elysium, “Mae’n hanfodol bwysig defnyddio adeiladau gwag  eto.

    “Mae gan yr adeilad hwn statws eiconig yn Abertawe felly mae ei weld yn cael bywyd newydd yn gwneud i bobl deimlo’n fwy cadarnhaol. Mae’n gwneud i bobl deimlo’n well am y ddinas.

    Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Rydym yn falch iawn o gefnogi menter Elysium gyda’i gwaith parhaus i roi bywyd newydd i hen adeilad JT Morgan fel rhan o brosiect a fydd yn ategu’r atyniadau diwylliannol gwych sydd gan Abertawe eisoes, gan gynnwys ein horiel ein hunain, Oriel Gelf Glynn Vivian.”

    Meddai Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru, “Mae hon yn enghraifft drawiadol o sut y gall adfywio creadigol roi bywyd newydd i’n trefi a’n dinasoedd, wrth fynd i’r afael â phroblem adeiladau gwag.

    “Mae trawsnewid hen adeilad JT Morgan yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi cymunedau bywiog, cynhwysol drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.”

    Mae stiwdios Elysium yn Mansel Street a College Street yn parhau i fod ar agor ac mae ei chanolfan yn y Stryd Fawr yn parhau i gynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw. Mae ei hen ganolfan ar Orchard Street bellach ar gau.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.