Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd
    Yn Gymraeg

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 20, 2025Updated:November 20, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    NHS Wales (Adobe Stock)
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Cafwyd cytundeb i Gymru gyfan ar gyfer gwella cyflogau ac amodau miloedd o staff GIG Cymru sy’n ymgymryd â dyletswyddau clinigol uwch.

    Llywodraeth Cymru a chyflogwyr y GIG sy’n gyfrifol am negodi amodau’r cytundeb cenedlaethol hwn. Mae’r cytundeb yn nodi cam pwysig tuag at sicrhau bod tua 6,000 o aelodau o staff GIG Cymru yn cael eu trin yn deg ac yn derbyn y cyflog cywir am y gwaith maen nhw’n ei wneud.

    Cafodd y cytundeb, sy’n effeithio ar staff band 2 a 3 sy’n cael eu cyflogi gan fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG dros Gymru gyfan, ei gymeradwyo heddiw gan Lywodraeth Cymru, cyflogwyr y GIG a’r undebau llafur.

    Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

    “Mae’r dull cenedlaethol hwn yn dangos ein hymrwymiad ar y cyd i gefnogi gweithlu’r GIG a sicrhau bod staff yn cael eu gwobrwyo’n briodol ac yn deg am y gwaith maen nhw’n ei wneud.

    “Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y rolau swyddi yn cael eu cysoni â’r bandiau cyflog priodol, a bydd yn cefnogi amodau gwaith teg i holl staff GIG Cymru.”

    Bydd y fframwaith cenedlaethol, y cytunwyd arno mewn partneriaeth gymdeithasol, yn sicrhau bod disgrifiadau swyddi wedi’u diweddaru ar gael i’r holl staff band 2 a 3. Yn ddiweddar, cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru i ddatrys anghydfod tebyg dan arweiniad undeb UNSAIN. Bydd y staff sy’n cael eu heffeithio gan y newid hwn yn derbyn taliad cydnabyddiaeth a  chywirol.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.