Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Taliadau â cherdyn i fod yn orfodol ym mhob tacsi yng Nghaerfyrddin
    Yn Gymraeg

    Taliadau â cherdyn i fod yn orfodol ym mhob tacsi yng Nghaerfyrddin

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 10, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Taxi (Adobe Stock)
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Bydd teithwyr mewn tacsis cyn bo hir yn gallu talu am eu taith drwy gerdyn credyd neu gerdyn arian ym mhob tacsi trwyddedig sy’n gweithredu yn y ddinas.

    Ar hyn o bryd, mae llawer o dacsis yn derbyn taliadau am deithiau drwy arian parod yn unig, gan ei gwneud yn anodd i bobl deithio os nad ydynt yn cario arian parod.

    O fis Rhagfyr 2025, mae rheolau newydd a gymeradwywyd gan Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol Cyngor Abertawe yn golygu bod yn rhaid i dacsis hurio preifat a cherbydau hacni newydd eu trwyddedu gynnig cyfleusterau talu â cherdyn.

    Daw’r rheolau newydd i rym ar gyfer deiliaid trwyddedau tacsi presennol pan gaiff eu trwydded eu hadnewyddu. Felly, ni fydd yn rhaid i rai ohonynt gydymffurfio â’r newidiadau tan y flwyddyn nesaf.

    Mae’r cynlluniau talu â cherdyn yn dilyn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2025, a gymeradwyodd ymgynghoriad cyhoeddus i glywed gan weithredwyr tacsis ac aelodau’r cyhoedd, gan ofyn iddynt a ddylai cyfleusterau talu â cherdyn fod yn orfodol ym mhob tacsi.

    Mae’r cynlluniau hyn yn dilyn pryderon a fynegwyd gan y cyhoedd fod teithwyr mewn perygl o gael eu gadael yn ddiymgeledd gan nad ydynt yn cario arian parod a chan eu bod yn dibynnu’n fwyfwy ar ddulliau talu modern fel Google Pay a thaliadau digyffwrdd.

    Cynhaliwyd ymgynghoriad ym mis Mai a mis Mehefin eleni a chytunodd 82% o’r rhai hynny a gymerodd ran y dylai pob tacsi gynnig peiriant talu â cherdyn.

    At ei gilydd, cymerodd 417 o bobl ran yn yr ymgynghoriad, gan gynnwys 179 o’r diwydiant tacsis.

    Meddai’r Cyng. Andrew Williams, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol, “Mae llawer o gwmnïau tacsis a pherchnogion tacsis unigol eisoes yn defnyddio technoleg darllen cardiau yn ogystal â chaniatáu i deithwyr dalu am deithiau drwy ap ffôn clyfar.

    “Fodd bynnag, mae llawer o yrwyr tacsis yn y ddinas yn dal i ganiatáu taliadau drwy arian parod yn unig, a gallai hyn olygu na fyddai modd i deithwyr dalu am eu taith os nad ydynt yn cario arian parod.

    “Mae ein hymgynghoriad cyhoeddus diweddar wedi dangos bod y mwyafrif helaeth o deithwyr am weld dulliau talu modern yn cael eu mabwysiadu ym mhob tacsi trwyddedig sy’n gweithredu yn y ddinas.”

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.