Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Teithio Bws Rhatach i Blant Wrth i’r Cynllun Treial Tocyn £1 Ehangu
    Yn Gymraeg

    Teithio Bws Rhatach i Blant Wrth i’r Cynllun Treial Tocyn £1 Ehangu

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 3, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Bus (Adobe Stock)
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Bydd rhagor o bobl ifanc yn elwa ar deithiau bws rhatach ledled Cymru wrth i’r cynllun sy’n cynnig tocynnau bws am £1 gael ei estyn i bobl 5–15 oed o heddiw ymlaen.

    Cafodd y cynllun ei lansio ym mis Medi ar gyfer pobl 16–21 mlwydd oed, ac mae eisoes wedi bod yn llwyddiant gyda phobl ifanc yn manteisio ar bron i chwarter miliwn o deithiau rhatach.

    Nid yn unig bydd y cynllun estynedig yn darparu teithiau bws fforddiadwy diderfyn i ragor o blant a phobl ifanc, i’w helpu i gael mynediad at addysg a hamdden, bydd hefyd yn helpu i gefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i annog rhagor o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, lleihau allyriadau carbon a mynd i’r afael â thlodi.

    Bydd y cynllun peilot, sy’n cynnig tocyn unffordd am £1 a thocyn diwrnod am £3 ar gyfer unrhyw wasanaethau bysiau sy’n cymryd rhan, yn rhedeg tan fis Awst 2026. Yn wahanol i’r rhai sy’n  16–21 oed, nid oes angen Fy Ngherdyn Teithio ar bobl ifanc 5–15 oed er mwyn manteisio ar y prisiau rhatach.

    Wrth siarad yng Nghyfnewidfa Fysiau Merthyr Tudful, cyn cyfarfod Cabinet yn y dref yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, bydd y Prif Weinidog, Eluned Morgan yn dweud:

    ” Rydyn ni’n cyflawni ein haddewid i dorri costau teithio i helpu i ddileu rhwystrau, oherwydd dydyn ni ddim yn disgwyl i unrhyw berson ifanc yng Nghymru deimlo yn ynysig neu ei fod wedi’i anwybyddu oherwydd cost trafnidiaeth.

    “Mae’r buddsoddiad hwn eisoes wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru, ond yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.”

    Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

    “Mae’n bleser gen i estyn y cynllun hwn i gynnig teithiau bws fforddiadwy i ragor o bobl ifanc ledled Cymru.

    “Rydyn ni eisoes wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n manteisio ar y prisiau rhatach, ac edrychaf ymlaen at weld hyn yn parhau i godi nawr ein bod wedi estyn y cynllun i bobl 5–15 oed.”

    Bydd Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach De Cymru, Martin Gibbon, yn dweud:

    “Rydyn ni wedi bod yn falch iawn o weld yr ymateb cadarnhaol i’r cynllun hwn. Mae Stagecoach De Cymru wedi ymrwymo i wneud teithio mor hygyrch a fforddiadwy â phosibl, ac mae’r cynllun eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc drwy eu cysylltu â chyfleoedd a’u ffrindiau.

    “Edrychwn ymlaen at groesawu teithwyr iau ar ein gwasanaethau o heddiw ymlaen.”

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2026 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.