Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Chwaraeon Caerffili 2025
    Yn Gymraeg

    Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Chwaraeon Caerffili 2025

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 11, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Winners snnounced for the Sport Caerphilly Sport Awards 2025
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Cafodd arwyr chwaraeon lleol eu cydnabod yn nigwyddiad Gwobrau Chwaraeon Caerffili 2025, a gafodd ei gynnal yn Bryn Meadows ddydd Gwener 7 Tachwedd. Daeth y dathliad blynyddol â chlybiau, gwirfoddolwyr ac arweinwyr cymunedol ynghyd i anrhydeddu’r rhai sy’n gwneud cyfraniad eithriadol i chwaraeon ar lawr gwlad ledled y Fwrdeistref Sirol.

    Roedd y digwyddiad, wedi’i gynnal gan Chwaraeon Caerffili, yn dathlu unigolion a sefydliadau y mae eu hymroddiad a’u hangerdd yn parhau i gryfhau chwaraeon cymunedol ac ysbrydoli cyfranogi ar bob lefel.

    Dyma enillwyr eleni:

    • Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn – Sefydliad Aaron Ramsey: Ioan Walters (Clwb Pêl-droed Wattsville)
    • Gwirfoddolwr y Flwyddyn – Cymdeithas Chwaraeon Cymru: Lee Couzens (Clwb Tennis Caerffili)
    • Hyfforddwr Cynhwysol y Flwyddyn – Cwpan Coffa Phylyp Butler: Julie Proctor (Clwb Trampolîn Caerphilly Dragonflies)
    • Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn – Clwb Rygbi’r Dreigiau: Michaela Pine (Clwb Pêl-rwyd Iau Caerffili)
    • Clwb y Flwyddyn – Langstone Safety and Workwear: Clwb Hoci Sue Noake
    • Cyflawniad Oes i Chwaraeon – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili: Alison Dacey (Clwb Pêl-rwyd Ystrad Mynach) a Karen Williams (Clwb Pêl-rwyd Iau Caerffili)

    Hefyd, cafodd yr arwr rygbi, Steve Fenwick, ei ychwanegu at Wal Enwogion Chwaraeon Tîm Caerffili, gan gydnabod ei gyfraniad eithriadol i rygbi Cymru a’i lwyddiant fel cyn-chwaraewr rhyngwladol Llewod Prydain ac Iwerddon, a Chymru. Mae ei gyflawniadau’n parhau i ysbrydoli chwaraewyr a chefnogwyr ledled y Fwrdeistref Sirol.

    Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, “Mae’r gwobrau hyn yn tynnu sylw at y bobl a’r clybiau anhygoel sy’n gwneud ein cymunedau’n gryfach trwy chwaraeon. Mae eu hymroddiad, eu harweinyddiaeth a’u hangerdd yn sicrhau bod cyfleoedd i fod yn egnïol ar gael i bawb ledled Caerffili.”

    Roedd y noson hefyd yn cynnwys anerchiad ysbrydoledig gan y Farwnes Tanni Grey-Thompson, un o Baralympiaid mwyaf llwyddiannus Prydain ac eiriolwr blaenllaw dros gynhwysiant a chydraddoldeb ym myd chwaraeon.

    Mae’r gwobrau’n rhan o’r ymrwymiad parhaus i hyrwyddo gweithgarwch corfforol a lles drwy Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019–2029, sy’n cefnogi cyfranogiad a chynhwysiant ledled y Fwrdeistref Sirol.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2026 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.